Galw am ehangu apêl papurau bro

Leightron Andrews
Image caption Mae Leighton Andrews am weld papurau bro yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddara

Mae Gweinidog â chyfrifoldeb am yr Iaith Gymraeg yn galw ar bapurau bro Cymru i ddefnyddio'r dechnoleg newydd er mwyn denu cynulleidfa newydd ac apelio at y genhedlaeth ifanc.

Mae Leighton Andrews am weld yr iaith Gymraeg yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y cyfryngau newydd a thechnoleg.

Roedd yn annerch cyfarfod cenedlaethol y Papurau Bro yn yr Eisteddfod ddydd Sadwrn.

"Rydyn ni am i bobl weld bod y Gymraeg yn iaith fodern, fyw," meddai.

"Er mwyn gwneud hyn mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod yr iaith ar gael i bawb ym mhob math o gyfathrebu.

"Mae'r Papurau Bro yn draddodiad pwysig yng Nghymru, ond wrth i fwy o bobl droi at y dechnoleg newydd am eu newyddion, mae'n hanfodol eu bod yn defnyddio'r dulliau newydd hyn o gyfathrebu.

"Mae nifer o gyfleoedd ar gael i helpu'r broses o gyhoeddi'r Papurau Bro i symud â'r oes, o'r dylunio a'r cysodi i ddefnyddio Hyperlocal i'w hyrwyddo.

"Mae llawer iawn o dechnoleg ar gael i'w gwneud yn hygyrch i gynulleidfa ehangach a rhoi lle i leisiau newydd."

'Rhannu syniadau'

Dywedodd Bryan James, Is-Gadeirydd Pwyllgor y Dinesydd, Papur Bro Dinas Caerdydd ar Cylch, fod y cyfarfodydd cenedlaethol yn yr Eisteddfod yn gyfle i rannu syniadau a materion sy'n gysylltiedig â Phapurau Bro.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at glywed barn y Gweinidog am y cyfryngau newydd a thechnoleg," meddai.

Mae Strategaeth Iaith Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru, Iaith fyw: Iaith Byw, yn rhoi pwysigrwydd mawr ar swyddogaeth technoleg a'r cyfryngau digidol yn nyfodol yr iaith, ac yn gynharach eleni sefydlwyd Grŵp y Gymraeg, Technoleg a'r Cyfryngau Digidol i roi cyngor ar y rhan hwn o'r strategaeth.

"Yn yr 21ain Ganrif, mae'r ffaith bod cynnwys cyfryngau digidol ac apps nid yn unig yn caniatáu i'r iaith Gymraeg ffynnu, ond hefyd yn galluogi siaradwyr y Gymraeg i gymryd rhan yn llawn fel dinasyddion digidol," ychwanegodd Mr Andrews.

"Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw'r iaith Gymraeg yn cael ei gadael ar ôl gan y technolegau diweddaraf ac yn hytrach ein bod yn eu defnyddio i ddangos bod yr iaith Gymraeg yn gyfrwng creadigol, pwerus, modern sy'n hawdd ei addasu."

Roedd y cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau 1 am 2pm.