Dipyn o Dŵ - sylwadau diwedd dydd o'r Brifwyl

Arwydd i'r Eisteddfod
Image caption Un o'r nifer o arwyddion sydd i'w gweld ar y ffordd i'r Maes

Dydd Sadwrn ydi diwrnod cyntaf yr Eisteddfod . . . gyda'i ddigwyddiad cyntaf ar y nos Wener.

A honno, eleni yn noson pawb allech chi feddwl amdano 'aloud' - only men, only boys ac, am y tro cyntaf erioed, Only Vale Kids . . . Aloud .

Cyngerdd Only Men + Boys Aloud oedd noson fwyaf lwyddiannus Eisteddfod Glyn Ebwy ddwy flynedd yn ôl felly pam nad trio'r un peth yn Y Fro a'r deheubarth eleni eto gan na chafwyd noson i'w chymharu o ran poblogrwydd yn Wrecsam y llynedd.

Ac yn wir yr oedd pob tocyn wedi ei werthu ymhell cyn y noson.

Ac fel y dywedodd un edmygydd, yr oedd cael criw o bobl ifanc at ei gilydd fel hyn yn gamp ynddi'i hun - heb son am eu cael i berfformio gyda'r fath sglein.

Cymru'r Steddfodau

Wrth deithio o'r gogledd ddoe difyr oedd sylwi o fewn tafliad carreg i sawl maes Eisteddfod Genedlaethol yr oedd rhywun gan gychwyn gydag Eisteddfod Sir Y Fflint yn Yr Wyddgrug 'chydig yn ôl, wedyn Wrecsam y llynedd, Maldwyn ym Meifod, maes arbrofol Llanelwedd yn '93, Glyn Ebwy ddwy fynedd yn ôl, Caerdydd ddwyflwydd cyn hynny, Y Barri '68 ac yn awr Llandŵ i'w ychwanegu at y rhestr honno gan ein hatgoffa mai taith y 'Steddfod o amgylch Cymru yw taith cymaint ohonom o'n hadnabyddiaeth o'r wlad.

Dau le

Sôn am leoedd - ychydig a feddyliais wrth gychwyn o Brestatyn mai trwy le o'r enw Rhuthun y byddwn yn cyrchu'r maes y bore 'ma - ond oes y mae Rhuthun yn Y Fro hefyd yn ogystal â hwnnw yng Nghlwyd.

Yn ardal goediog ar un adeg cwympwyd y rhan fwyaf o'r rheini ar gyfer ffwrneisi'r gweithfeydd haearn y ganrif cyn ddiwetha'.

Ond diddorol gweld enw mor anghyffredin naill begwn a'r llall o'r wlad.

Duwadd annwl!

A sôn am enwau lleoedd ystyr Llandŵ medd yr arbenigwyr ydi Llan-Duw. Lle crefyddol iawn, felly ac ni allwn ond gweddïo mai Diolch i Dduw fyddwn ni yr adeg hon yr wythnos nesaf ac nid ochneidio, Duw a'n helpo.

Un peth sy'n sicr, Duw a'n gwaredo, fydd dim modd dianc rhag hon yr wyth, naw niwrnod nesaf yma.

Appus dyrfa

Yn y gynhadledd foreol i'r Wasg ar y decholeg wybodaeth fodern yr oedd y pwyslais gyda Leighton Andrews a'i fryd ar dechogoli papurau bro ein gwlad ac yn bendithio mab darogan y Gymru newydd, yr App.

Arwyddion tywydd

Cawod hyfryd yn y bore ac un arall y prynhawn oedd dymuniad William Williams Pantycelyn pan gododd ef ei babell yng ngwlad Gosen ac yn wir, wedi bore braf cawsom ninnau ein cawod eisteddfodol tua chwarter i dri bnawn Sadwrn.

Un a fyddai wedi golchi yn lân unrhyw bechadur gafodd ei dal ynddi.

Diolch mai ar hen faes awyr gyda glanfeydd caled y mae'r Ŵyl a phobman heb droi'n fôr o fwd!

Cawodydd yw'r darogan am yr wythnos a diolch am help un o'r Fro i ddarllen yr arwyddion tywydd.

Edrych tua'r môr a'r awyr uwch ei ben yw ei gyngor ac ychwanegodd y gellir rhagweld sut dywydd fydd o wylio'r cyfeiriad y mae'r awyrennau yn codi ac yn glanio ym maes awyr Y Rhŵs.

A dyna ni'n gwybod ein bod yn go iawn ym mro byd technolegol fodern yr 20fed Ganrif. Y flwydyn nesa' yn Ninbych, peryg y bydd yn rhaid i ni ddibynnu â pha gyfeiriad mae'r adar yn hedfan a sut mae'r gwartheg yn gorwedd ar y caeau.