Morgannwg yn sicrhau mantais yn erbyn Sir Gaerloyw

Logo Morgannwg Image copyright Other

Mae Morgannwg mewn sefyllfa gref ar ôl tridiau o'u gêm bencampwriaeth yn erbyn Sir Gaerloyw yn Abertawe.

Mae'r tîm cartref 210 o rediadau ar y blaen gyda phum wiced mewn llaw ar ddiwedd chwarae'r trydydd diwrnodd ddydd Gwener.

Ar ddechrau'r diwrnod roedd yr ymwelwyr mewn trafferth gyda sgôr o 91 am 7 wiced mewn ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 208.

Er i Marshall (31) a Cockbain (38) ychwanegu 42 rhediad am yr wythfed wiced llwyddodd bowlwyr y tîm cartref i fowlio Sir Gaerloyw allan am 165.

Bowlwyr mwyaf llwyddiannus Morgannwg oedd y troellwr Robert Croft a gipiodd 4 am 51 rhediad, Jim Allenby, a gipiodd 3 am 43 rhediad a'r troellwr llaw chwith, Dean Cosker, a gipiodd 2 am 34 rhediad.

Erbyn amser cinio roedd Morgannwg wedi sgorio un rhediad heb golli wiced yn eu hail fatiad, ond fe ddechreuodd wicedi ddisgyn wedi'r egwyl.

Collodd Gareth Rees ei wiced heb sgorio a chafodd Wil Bragg ei ddal coes o flaen wiced am 13 wrth i Forgannwg gyrraedd dim ond 26 rhediad am ddwy wiced.

Ond gwrth-ymosododd Stewart Walters gan sgorio 56 rhediad oddi ar 72 pêl gan daro'r ffin saith gwaith.

Batiodd Marcus North (42) a Jim Allenby (21) yn gadarn gyda Ben Wright (31 heb fod allan) wrth i Forgannwg sgorio 175 am bum wiced - mantais o 218 dros yr ymwelwyr.

Y gobaith yw i Forgannwg sgorio digon o rediadau yn ystod sesiwn y bore i alluogi troellwyr Morgannwg, Croft a Cosker i selio'r fuddugoliaeth ar y diwrnod olaf.

Dim ond un gêm y mae Morgannwg wedi ennill yn y bencampwriaeth y tymor hwn, ond fe allai buddugoliaeth arall eu codi o waelod y tabl (9fed) uwchben Sir Gaerloyw sy'n 6ed ar hyn o bryd.

Morgannwg v. Sir Gaerloyw (trydydd diwrnod)

Morgannwg: (Batiad cyntaf) - 208

(ail fatiad) - 175 am 5

Sir Gaerloyw: (Batiad cyntaf) - 165

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.