Morgannwg yn gosod targed o 248 rhediad

Logo Morgannwg Image copyright Other

Mae Morgannwg wedi herio Sir Gaerloyw i sgorio 248 i ennill eu gornest yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd yn Abertawe ddydd Sadwrn

Roedd Morgannwg 210 o rediadau ar y blaen gyda phum wiced mewn llaw ar ddiwedd chwarae'r trydydd diwrnodd ddydd Gwener.

Collodd y tîm cartref ddwy wiced yn ystod chwarae'r bore gan ychwanegu 37 rhediad cyn i gapten Morgannwg Mark Wallace gau'r batiad.

Prif sgorwyr Morgannwg yn eu hail fatiad oedd Stewart Walters (56), Marcus North (42) a Ben Wright (37) wrth i Forgannwg sgorio 204 am saith wiced - mantais o 247 dros yr ymwelwyr.

Collodd Sir Gaerloyw wiced yn gynnar yn eu hail fatiad pan ddaliodd Gareth Rees Chris Dent oddi ar fowlio Dean Cosker am 2 rhediad.

Y gobaith yw i droellwyr Forgannwg, Croft a Cosker gipio digon o wicedi i selio'r fuddugoliaeth yn ystod y prynhawn.

Dim ond un gêm y mae Morgannwg wedi ennill yn y bencampwriaeth y tymor hwn, ond fe allai buddugoliaeth arall eu codi o waelod y tabl (9fed) uwchben Sir Gaerloyw sy'n 6ed ar hyn o bryd.

Morgannwg v. Sir Gaerloyw (Pedwerydd diwrnod - cinio)

Morgannwg: (Batiad cyntaf) - 208

(ail fatiad) - 204 am7

Sir Gaerloyw: (Batiad cyntaf) - 165

(ail fatiad) - 27 am 1

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.