Cynnig priodas anarferol yng Nghricieth

Criw y bad achub gyda'r baner Image copyright RNLI
Image caption Cytunodd Ms Evans i briodi Mr Owen cyn i'r bad achub dderbyn galwad brys

Cafodd menyw gynnig priodas anarferol pan oedd hi'n gwylio ymarfer bad achub mewn tref yng Ngwynedd.

Roedd Beth Evans, 24 oed o Landudno yn gwylio'r ymarfer yng Nghricieth ddydd Iau pan welodd y criw yn dangos baner yn gofyn iddi briodi Harry Owen, 23 oed o Gonwy.

Cytunodd Ms Evans i briodi Mr Owen cyn i'r bad achub dderbyn galwad brys.

Dywedodd Mr Owen ei fod wedi dewis y bad achub i ofyn Ms Evans i'w briodi am fod ei modryb wedi rhoi arian i helpu cynnal un o'r badau achub.

'Syfrdanu'

"Mae Beth wedi dod i Gricieth ar ei gwyliau gyda'i theulu am flynyddoedd felly roeddwn i'n gwybod y byddwn i'n gofyn iddi fy mhriodi fan hyn" meddai Mr Owen.

"Roeddwn ar bigau'r drain wrth i'r criw lywio'r bad achub o flaen y lanfa ac agor y faner a'i ddangos i Beth."

Dywedodd Ms Evans, sy'n athrawes, ei bod wedi ei "syfrdanu" pan welodd y neges.

"Pan wnes i droi at Harry roedd ar ei bengliniau yn gofyn imi ei briodi," meddai.

Dywedodd rheolwr gweithrediadau Gwasanaeth Bad Achub Cricieth fod y criw wedi bod yn hapus i helpu Mr Owen.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.