Morgannwg yn ennill am yr eildro

Logo Morgannwg Image copyright Other

Mae Morgannwg wedi curo Sir Gaerloyw o 21 rhediad yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd yn Abertawe ddydd Sadwrn.

Roedd Morgannwg wedi gosod nod o 248 i'r ymwelwyr i ennill y gêm ar Sain Helen ar ôl dod â'u hail fatiad i ben yn gynnar.

Roedd y llain yn troi, a'r gobaith oedd y byddai'r ddau droellwr, Croft a Cosker, yn manteisio ar hynny.

Ni chafodd y cefnogwyr cartref eu siomi. Fe gipiodd Robert Croft bedair wiced am 53 rhediad, ac fe gafodd gymorth gan Dean Cosker (2-47), Jim Allenby (2-25) a Marcus North (2-39).

Cafodd Morgannwg fraw wrth i Cockbain a Talyor basio'r hanner cant i'r ymwelwyr, gan ddod â nhw'n agos at y sgôr angenrheidiol.

Mae'r fuddugoliaeth yn codi Morgannwg o waelod yr adran i fod yn seithfed yn Ail Adran y Bencampwriaeth gan basio Essex a Sir Gaerlŷr.

Morgannwg v. Sir Gaerloyw (Sgôr terfynol)

Morgannwg: (Batiad cyntaf) - 208

(ail fatiad) - 204 am7

Sir Gaerloyw: (Batiad cyntaf) - 165

(ail fatiad) - 221

Morgannwg yn fuddugol o 21 rhediad.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.