Murlun ysgol feithin yn croesawu Eisteddfodwyr Bro Morgannwg

Gwaith Ysgol Feithrin Cogan yn y brif fynedfa
Image caption Prosiect Ysgol Feithrin Cogan

Ymhlith y pethau cyntaf a welir gan ymwelwyr â'r Eisteddfod Genedlaethol yn Llandŵ yw murlun trawiadol gan ddisgyblion Ysgol Feithrin Cogan, Penarth.

Mae'r gwaith yn ymestyn ar hyd un o waliau'r Ganolfan Groeso ac yn cyfleu taith hanes gyffrous.

Deillia o'r modd y tyfodd hoff le un ferch fach i wrando ar stori yn brosiect ar fywyd Evan Rees a hanes yr Eisteddfod Genedlaethol!

Dechreuodd y prosiect pan ddatgelodd y ferch fach mai ei hoff le i wrando ar stori oedd cadair ei modryb - a honno yn Gadair Eisteddfod Genedlaethol 1881!

Ar ôl canfod mai Evan Rees, 'Dyfed' oedd y bardd ymwelodd y plant ag Amgueddfa Werin Cymru, Sain Fagan, i weld sut le oedd cartref y bardd pan oedd e'n blentyn a hynny'n arwain at ail-greu bwthyn glöwr yn yr ysgol i'r plant fynegi eu syniadau am y cyfnod.

Coron

Cynhaliwyd eisteddfod yn yr ysgol hefyd.

Defnyddiwyd y we i gasglu gwybodaeth a mynd ar 'daith ddigidol' i Eglwys Gadeiriol Tyddewi a arweiniodd at greu ffenestri gwydr lliw.

"Ar ôl anfon datganiad i bapurau newydd lleol, derbyniodd y plant lawer iawn o wybodaeth, arteffactau a cheisiadau am gystadleuaeth gymunedol," meddai llefarydd o'r ysgol mewn datganiad.

Daeth Anne Morgan dylunydd Coron Eisteddfod eleni â'i dyluniad i'r ysgol i'w ddangos i'r plant.

Penllanw'r cyfan oedd cyflwyno gwobrau cymunedol a chadeirio'r Bardd, gyda chwmnïau lleol a'r chwaraewr rygbi Gavin Henson yn noddi'r gwobrau. Roedd y prosiect i'w weld mewn cylchlythyr i gwmni llety gwarchod 'Newydd', yr oedd ei breswylwyr wedi cymryd rhan yn y prosiect.

Ac ar ddiwrnod arbennig '100 diwrnod tan yr Eisteddfod', clywodd Ysgol Feithrin Cogan fod ei harddangosfeydd a'i gwaith yn mynd i gael eu dangos wrth fynedfa Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yr wythnos hon.