Naid barasiwt i gofio am Speed

Matt Jones Image copyright Other
Image caption Fe redodd Matt Jones hanner marathon cyn gêm goffa Gary Speed yn erbyn Costa Rica ym mis Chwefror

Bydd cyn bêl-droediwr Cymru, Matt Jones, yn gwneud naid barasiwt ddydd Sul er cof am ei gyfaill a chyn reolwr Cymru, Gary Speed.

Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o heriau gan gyn seren Leeds a Chymru sy'n codi arian i nifer o elusennau oedd yn cael eu cefnogi gan Speed.

Eisoes mae Jones wedi dringo'r Wyddfa a rhedeg dwy ras farathon.

Bydd ei naid barasiwt o 13,000 troedfedd yn digwydd yn Abertawe yn ddiweddarach ddydd Sul.

Mae Jones, 31 oed, yn ceisio codi mwy na £10,000 i Sefydliad Sir Bobby Robson a Sefydliad John Hartson.

Mae'r tad i dri o Lanelli, a ymddeolodd o bêl-droed yn dilyn anaf difrifol i'w gefn, hefyd yn codi arian tuag at y Gymdeithas Anafiadau Cefn.

"Fe fyddaf ofn am fy mywyd", meddai Jones sydd ag ofn uchder.

"Yn wir fe fydd rhaid iddyn nhw fy ngwthio o'r awyren - rwy'n sicr o hynny'n barod.

"Pan oeddwn i yn Leeds roedden ni'n hedfan yn aml, ac roedd i'n nerfus iawn mewn awyren.

"Gobeithio y bydd pobl sy'n fy ngweld yn taclo'r ofn yna yn fwy tebygol o roi ychydig geiniogau tuag at yr achos."

Ymhlith i sialensau eraill y mae Matt wedi eu cynllunio mae reidio beic statig am 24 awr mewn archfarchnad yn Abertawe, ac yna reidio beic o Lanelli i Newcastle.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.