Trên: Twnnel Hafren wedi ailagor

Twnnel Hafren
Image caption Ail-ddechreuodd gwasanaethau trenau drwy'r twnnel erbyn 1:25pm.

Mae Twnnel Hafren wedi ailagor ar ôl i drên dorri i lawr fore Llun.

Dywedod Network Rail fod injan y trên o eiddo cwmni DB Schenker, oedd yn teithio i gyfeiriad y dwyrain ar ochr Lloegr y twnnel, wedi pallu.

Mae hyn wedi amharu ar wasanaethau trenau rhwng Llundain a De Cymru.

Torrodd y trên i lawr am 11:20am fore Llun cyn cael ei symud gan drên arall anfonwyd o Avonmouth.

Ail-ddechreuodd gwasanaethau trenau fynd trwy'r twnnel erbyn 1:25pm.

Fe gafodd cyfanswm o 26 o drenau eu gohirio am gyfnod a chafodd tri ohonyn nhw eu canslo'n llwyr.