Dai Greene
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Oes 'na obaith euraid i Greene?

6 Awst 2012 Diweddarwyd 10:12 BST

Yn y drydedd lôn fydd Dai Greene o Lanelli yn ceisio ennill medal aur nos Lun.

Mae pencampwr 400 metr dros y clwydi'r byd yn ffodus i gael lôn gystal ar ôl dim ond crafu drwodd i'r rownd derfynol gyda pherfformiad hynod siomedig nos Sadwrn.

Gorffennodd Greene yn bedwerdydd yn ei rownd gynderfynol, a dim ond fel un o'r collwyr cyflymaf y cafodd ei le yn yr wyth fydd yn cystadlu am fedal nos Lun.

Mwy gan Gwenllian Glyn.