Marwolaeth wedi damwain ffordd

Map o ardal y ddamwain

Mae dyn wedi marw oherwydd damwain ar draffordd yr M48 rhwng Magwyr a Chas-gwent.

Cafodd plismyn eu galw tua 10:20am.

Yn ôl yr heddlu, mae'n ymddangos fod dyn y tu allan i'w gar pan gafodd ei daro gan lori.

Mae'r ffordd wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad tra bod y safle yn cael ei glirio a'r heddlu'n ymchwilio i achos y ddamwain.

Dywedodd yr heddlu y byddai'r ffordd yn ailagor wedi i'r cerbydau gael eu symud.

Yn y cyfamser, mae traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd ffyrdd eraill.

Mae 'na adroddiadau fod y ddamwain wedi achosi cryn drafferth i yrwyr yn yr ardal.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y gwrthdrawiad ffonio'r Uned Ymchwilio ar 01633 642404.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.