Cwmni lensys yn colli 46 o swyddi

Hoya Image copyright Hoya
Image caption Bydd y cyhoeddiad diweddara' yn golygu y bydd 110 o weithwyr ar ôl

Daeth cadarnhad ddydd Llun y byddai 46 o swyddi'n diflannu mewn ffatri cynhyrchu lensys.

Roedd cwmni Hoya Lens UK eisoes wedi dweud eu bod yn adolygu staffio yn eu ffatri yn Wrecsam.

Mae'r cwmni yn cynhyrchu lensys plastig a gwydr ar gyfer optegwyr.

Y llynedd roedd y cwmni o Japan wedi diswyddo 160 o bobl yn Wrecsam - hanner y gweithlu - ar ôl colli cytundeb mawr gyda chwmni Boots.

Dywedodd y cwmni eu bod wedi bod yn edrych ar lefelau staffio yng Nghymru oherwydd y llifogydd yng Ngwlad Thai ac ar ôl ehangu un o'u labordai yn Hwngari.

Pwysleisiodd y cwmni eu bod yn gobeithio y byddai rhai o'r diswyddiadau'n wirfoddol.

Mae Hoya wedi cyflogi pobl ar eu safle yn Wrecsam ers dros 30 mlynedd a bydd y cyhoeddiad diweddara' yn golygu y bydd tua 110 o weithwyr ar ôl.

Cwmni cyntaf

Nhw oedd y cwmni cyntaf o Japan i ymsefydlu yn y gogledd ddwyrain cyn i Sharp, Brother a Toyota gyrraedd yn sgil eu llwyddiant.

Dechreuodd cyfnod ymgynghori gyda staff Hoya yn Wrecsam ddydd Llun a bydd yn para 30 diwrnod.

Dywedodd y cwmni fod newidiadau yn y gadwyn gyflenwi ryngwladol wedi digwyddiadau yng Ngwlad Thai a Hwngari wedi arwain at ailstrwythuro'r tîm yn Wrecsam.

"Y nod yw creu gweithlu llai, sy'n fwy hyblyg a chyda mwy o sgiliau, sy'n gallu gweithredu ein gweledigaeth i gynhyrchu lensys o safon fyd-eang, gyda chymorth y gadwyn gyflenwi Ewropeaidd a rhyngwladol," meddai'r datganiad.

Ychwanegodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni yn y DU, Martin Bathos, fod y cwmni wedi cynnal "adolygiad strwythurol a manwl o'r llifogydd yng Ngwlad Thai" a'u bod "wedi defnyddio'r casgliadau i ddylunio cynllun busnes mwy syml ar gyfer y dyfodol".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.