Hen, hen hanes i safle'r Eisteddfod

Heledd Fychan, Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Image caption Heledd Fychan gyda hen ffram ffenestr Chwe Ffynnon a llun y ffermdy

Bydd Eisteddfod Bro Morgannwg yn gadael ei hôl ar yr ardal mewn mwy nag un ffordd gyda "chreiriau" Eisteddfodol yn cael eu claddu yn y ddaear ddydd Sadwrn i'w darganfod gan genedlaethau'r dyfodol.

Trefnir hynny gan yr Amgueddfa Genedlaethol er mwyn parhau olyniaeth hynafol a chyfoethog safle go arbennig.

Mae rhai ymwelwyr yn ymwybodol mai maes awyr oedd ar y safle ac mae digon o arwyddion o hynny ar ffurf glanfeydd caled a "hangers" yn y cyffiniau.

Ond eglurodd Heledd Fychan, Cydlynydd Eiriolaeth yr Amgueddfa Genedlaethol, fod hanes y safle yn ymestyn yn ôl filoedd o flynyddoedd i'r Oes Efydd.

Ac yn stondin yr amgueddfa ar y Maes mae pob math o weithgareddau yn cael eu trefnu i egluro'r cysylltiad hynafol hwnnw.

Gwerthfawr

Cyn codi'r maes awyr ffermdy o'r enw Chwe Ffynnon oedd ar y tir.

Adeg adeiladu'r maes awyr gwnaeth pennaeth yr Amgueddfa ar y pryd, Cyril Fox, a'i wraig, waith cloddio a chofnodi gwerthfawr iawn.

Yn y babell ar y maes mae lluniau o'r hen ffermdy, ffrâm garreg un o'i ffenestri a llun o sgerbwd a ddarganfuwyd a nodiadau amdano.

Gosodwyd arwyddion ar hyd a lled y Maes yn nodi lleoliadau diddorol, gan gynnwys safle'r hen ffermdy a safle claddfa yn y maes carafanau.

Penllanw'r holl weithgarwch fydd y seremoni ddydd Sadwrn.

"Y diwrnod hwnnw byddwn yn agor twll yn y rhan o'r maes lle mae'r 'Maes Gwyrdd' ar hyn o bryd," meddai Heledd Fychan, "ac mi fyddwn ni'n claddu pob math o bethau ynddo i gynrychioli'r wythnos arbennig hon yn hanes y lle."

Bydd y "creiriau" yn cael eu cludo o babell yr Amgueddfa am 1230 gyda'r seremoni yn y Maes Gwyrdd yn cychwyn am 1pm.

Bydd y twll yn cael ei gau wedyn ac wyneb y tir yn cael ei adfer i'w gyflwr gwreiddiol.