Teyrngedau i 'dalent ryfeddol'

James McLaren
Image caption Roedd yn arbenigwr ar y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru

Mae BBC Cymru a Sefydliad Cerddoriaeth Cymru wedi rhoi teyrnged i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M48 ger Magwyr ddydd Llun.

Roedd James McLaren, 34 oed, yn gynhyrchydd gyda BBC Cymru ac roedd yn gyn aelod o SCC.

Y gred yw ei fod y tu allan i'w gar pan oedd y gwrthdrawiad rhwng Magwyr a Chas-gwent am 10:20am fore Llun ac mae Heddlu Gwent wedi apelio am wybodaeth.

'Angerdd'

Roedd yn cael ei ystyried yn arbenigwr ar y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru a dywedodd y sefydliad mewn datganiad: "Mae pawb yn SCC yn drist ac wedi syfrdanu o glywed am farwolaeth James McLaren.

"Roedd yn un o'r tîm gwreiddiol - yn creu, golygu a rheoli ein cylchlythyr misol.

"Ac roedd ei angerdd yn llifo ymhob rhifyn a chyda'i frwdfrydedd a'i allu fe ddaeth yn ffigwr poblogaidd yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

"Ar ôl symud i BBC roedd yn dal i hybu'r gerddoriaeth yng Nghymru oedd mor bwysig iddo ac yn parhau'n gyfaill agos i SCC, gan weithio gyda ni ar nifer o brosiectau.

"Mae ei deulu a'i gyfeillion yn ein meddyliau."

'Talent ryfeddol'

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Roedd James yn is-gynhyrchydd talentog a ymunodd â BBC Cymru chwe blynedd yn ôl.

"Yn fwyaf diweddar, gweithiodd ar lansiad llwyddiannus hafanau newydd BBC Cymru Wales ac roedd nifer ohonoch chi yn ei adnabod am ei ymroddiad a'i gefnogaeth ysbrydoledig i gerddoriaeth Gymreig.

"Roedd ei blogs rheolaidd ar gerddoriaeth Gymreig ar gyfer ein gwasanaethau ar-lein yn dangos gwir gariad at y maes, gwybodaeth anhygoel ac ymrwymiad cadarn i gefnogi talent newydd.

"Rwy'n gwybod y bydd pawb fu'n gweithio gydag e yn colli ei bersonoliaeth fywiog, ei ddigrifwch unigryw a'i dalent ryfeddol.

"Mae ei deulu, ei gydweithwyr a'i ffrindiau i gyd yn ein meddyliau ni ar adeg mor anodd."

Straeon perthnasol