David Cameron yn ymweld â Chymru i hybu chwaraeon

David Cameron Image copyright Getty Images
Image caption Bydd David Cameron yn dod i Gymru fel rhan o'i daith i hyrwyddo chwaraeon

Bydd y Prif Weinidog David Cameron yn ymweld â Chymru ddydd Mawrth fel rhan o daith i hyrwyddo chwaraeon yn y DU.

Mae eisoes wedi bod yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon dros yr wythnos ddiwetha'.

Wrth i Dîm Prydain barhau i ennill medalau Olympaidd, mae Mr Cameron eisiau hybu plant i wneud chwaraeon.

"Wrth ddod â'r Gemau i'r DU, rwy'n sicr y gallwn ni helpu hyd yn oed mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon ar hyd eu hoes," meddai tra ar ymweliad â Glasgow.

Cefnogodd ymgais y ddinas honno i gynnal Gemau Olympaidd i'r Ifanc yn 2018.

Fe deithiodd hefyd i Coleraine, Gogledd Iwerddon, fel rhan o'r un daith.

Aeth i Glwb Rhwyfo Bann, ble bu'r brodyr Richard a Peter Chambers ac Alan Campbell yn hyfforddi - ill tri wedi ennill medalau yn y Gemau.

Mae taith Mr Cameron yn parhau ddydd Mawrth wrth iddo ymweld â chyfleusterau chwaraeon yng Nghymru a'r bobl ifanc sy'n eu defnyddio.

Straeon perthnasol