Chwilio eto am gerddwr ar goll

Shayne Colaco Image copyright NWP
Image caption Mae Shayne Colaco yn gerddwr profiadol

Mae timau achub yn chwilio eto am gerddwr sydd wedi bod ar goll yn Eryri ers dydd Sadwrn.

Y gred yw bod Shayne Colaco, 33 oed o Stoke-on-Trent, wedi cychwyn ar ei ben ei hun i fyny mynydd Tryfan ar ôl gadael ei gar yn Nyffryn Ogwen.

Ddydd Mawrth roedd 20 aelod o Dîm Achub Dyffryn Ogwen a 15 o Dîm Achub yr Awyrlu'n chwilio'r ardal.

Ailddechreuon nhw am 6pm nos Fawrth nes ei bod yn tywyllu.

Dywedodd yr Arolygydd Dan Moss o Heddlu Gogledd Cymru: "Ar sail y wybodaeth oedd yng nghar Shayne, rydym yn credu ei fod wedi cerdded o Lyn Ogwen i fyny Tryfan.

"Yna roedd yn bwriadu cerdded yn ôl tuag at Gwm Bochlwyd heibio Llyn Bochlwyd ac ymlaen ar hyd yr A5 i Gapel Curig.

"Rydym yn apelio at unrhyw allai fod wedi ei weld i gysylltu â ni drwy ffonio 101."

Mae Mr Colaco yn gerddwr profiadol a'r gred yw ei fod yn gwisgo dillad tebyg i'r rhai yn y llun y mae'r heddlu wedi ei gyhoeddi.