Craig Bellamy ar fin gadael Lerpwl

Craig Bellamy Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Craig Bellamy wedi cynrychioli naw clwb yn ystod ei yrfa

Mae rheolwr clwb pêl-droed Lerpwl, Brendan Rodgers, wedi cadarnhau bod Craig Bellamy ar fin gadael y clwb.

Mae cyn gapten Cymru ac aelod Team GB yn y Gemau Olympaidd wedi mynegi ei ddymuniad i symud i glwb ei gartref, Caerdydd.

Treuliodd gyfnod ar fenthyg gyda Chaerdydd yn 2010 pan oedd ar lyfrau Manchester City.

Wrth wneud y cyhoeddiad ddydd Mercher, dywedodd Brendan Rodgers: "Rydym wedi bod yn trafod gydag e a Chaerdydd yn nhermau'r posibilrwydd ohono'n dychwelyd yno.

"Nid mater o Craig am adael Lerpwl yw hyn, mae'n fwy i wneud gyda rhesymau tosturiol.

"Mae'n 33 oed ac wedi teithio ar draws Prydain ar hyd ei yrfa tra bod ei deulu yn byw yn rhywle arall."

Mae teulu Bellamy yn dal i fyw yng Nghaerdydd ac mae Bellamy ers tro am yn dymuno symud yn ôl yno.

Yn ystod ei yrfa mae Bellamy wedi chwarae i naw o glybiau gan gynnwys cyfnodau ar fenthyg dau gan gynnwys, Lerpwl (ddwywaith), West Ham United, Manchester City, Celtic a Newcastle ynghyd â'i gyfnod blaenorol gyda Chaerdydd.

Straeon perthnasol