Damwain awyr: Awyren wedi taro coed ger y Trallwng

Bob Jones Image copyright Other
Image caption Mr Jones oedd yn gyfrifol am sefydlu'r maes awyr

Mae adroddiad damwain wedi canfod y cafodd dau beilot eu lladd wedi i'w hawyren daro coed oedd wedi'u cuddio gan gymylau.

Bu farw Bob Jones, 60 oed, a Steve Carr, 55 oed, o Ruthun wedi damwain ar fynydd Cefn Digoll ger Y Trallwng ar Ionawr 18 eleni.

Mr Jones wnaeth sefydlu Maes Awyr y Canolbarth ar dir ger ei fferm a'i ddatblygu o lain glanio yn 1990 i fod yn faes awyr pwysig i fusnesau'r ardal.

Roedd Mr Carr yn hedfan yr awyren Piper PA i am y tro cyntaf er 1998 pan ddigwyddodd y ddamwain.

Sioe Awyr

Yn ôl yr adroddiad fe fyddai Mr Carr, cyn beilot awyrennau masnachol, a Mr Jones, oedd hefyd yn beilot, wedi bod yn ymwybodol fod y mynydd yn agos.

Canfu adroddiad gan Adran Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr "y gallai'r dynion wedi meddwl eu bod yn uwch na'r mynydd".

Mae'r adroddaid hefyd yn son fod cymylau yn cuddio coed ar dir uchel.

Mae Maes Awyr y Canolbarth yn cynnal Sioe Awyr yno bob blwyddyn, sydd bellach wedi'i henwi er cof am Mr Jones.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.