Galwad ffôn yn dod â'r Gymraeg yn ôl

Faleiry a'i gwr, George Koczkar
Image caption Faleiry a'i gwr, George Koczkar

Bu gwraig o Awstralia yn sôn sut y bu i alwad ffôn annisgwyl ddeffro ei Chymreictod a'i throi yn Gymraes unwaith eto.

Yr oedd Faleiry Koczkar o Melbourne yn siarad mewn derbyniad ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mercher a drefnwyd gan Undeb Cymru a'r Byd.

Yr oedd Faleiry yn athrawes ac wedi bod yn byw yn Awstralia ers 30 mlynedd pan dderbyniodd yr alwad ffôn a newidiodd ei bywyd.

"Un diwrnod, a minnau wedi colli llawer o fy Nghymraeg erbyn hynny, yr oeddwn yn yr ysgol ar ddechrau gwyliau'r haf a phawb arall wedi mynd ar eu gwyliau yn barod a minnau eisiau mynd, fe gannodd y ffôn.

"Rhyw ddyn eisiau i mi arwain côr meibion a finna'n dweud fy mod yn rhy brysur gyda chorau yn yr ysgol i gymryd côr arall.

"Ond roedd e'n reit persistent gan ddal ati am tua deng munud a'r unig reswm na roddais y ffôn i lawr oedd mai côr meibion Cymraeg oedd e'n siarad amdano.

Ymwelwyr cyson

"Ac yn y deng munud yna roedd rhywbeth wedi ymffurfio ynof i, rhywbeth Cymraeg yn ail ddeffro ar ôl gymaint o amser," meddai.

Cytunodd i arwain y côr a hynny yn peri iddi ddod i Gymru y flwyddyn wedyn i ganu gyda chorau meibion de Cymru.

Ers hynny bu hi a chôr Cantorion Cymreig Fictoria ym Melbourne yn ymwelwyr cyson â Chymru ac y mae hithau yn gwbl rugl ei Chymraeg fel y clywyd nos Sul pan anerchodd o lwyfan yr Eisteddfod fel arweinydd yr ymwelwyr tramor â Llandŵ.

Mae ei chôr hefyd newydd gwblhau ei daith ddiweddaraf yng Nghymru ond Faleiry yn aros yng Nghymru am 10 wythnos arall.

Eglurodd iddi hi adael Cymru am Awstralia yn ferch ifanc hanner can mlynedd yn ôl.

"Gadael teulu gadael cartref gadael gwlad a gadael Cymru yn ferch ifanc un ar hugain oed a phriodi â bachgen o Awstralia oedd yn wreiddiol o Hwngari," meddai.

Yr oedd George ei gŵr hefyd yn bresennol yn y derbyniad ar y maes ddydd Mercher.

Glaniodd Faleiry yn y wlad newydd oddi ar long y Canberrra gydag £20 yn unig yn ei phoced - 25 yn arian Awstralia gan roi'r argraff iddi yn ei diniweidrwydd o wlad dda a haelionus iawn.

Gan weithio yn llawn amser yr un pryd, astudiodd i fod yn athrawes gerdd a setlo yn y wlad a chodi teulu - dau fachgen a'u henw canol yn Ilar ar ôl Llanilar lle mae ei gwreiddiau.