Kirsty Jones: Apêl newydd yng Ngwlad Thai

Kirsty Jones Image copyright Other
Image caption Roedd Kirsty Jones yn 23 oed pan gafodd ei llofruddio

Mae mam merch gafodd ei lladd pan oedd yn teithio yng Ngwlad Thai wedi cynnig gwobr o £10,000 am wybodaeth allai arwain at ddal y llofrudd.

Cafodd Kirsty Jones, oedd yn 23 oed o Dredomen ger Aberhonddu, ei threisio a'i thagu mewn gwesty yn Chiang Mei ar Awst 9, 2000.

Mae plismyn Heddlu Dyfed-Powys wedi teithio i Wlad Thai gyda mam Kirsty, Sue Jones, er mwyn asesu cynnydd yr ymchwiliad.

Roedd y fam yn gwneud apêl bersonol am wybodaeth mewn cynhadledd newyddion yn y brifddinas, Bangkok.

Cyfres o gyfarfodydd

Y tro diwethaf i blismyn ymweld â Chiang Mai oedd ym mis Chwefror.

Wedi cyfres o gyfarfodydd gyda Chyrnol yr Heddlu, Songsak Raksaksakul, cawsant eu sicrhau bod Awdurdodau Gwlad Thai yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r farwolaeth a'u bod yn canolbwyntio ar Chiang Mai.

Cyn y gynhadledd newyddion dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Andy John: "Ers ein hymweliad ym mis Chwefror, gyda chymorth Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad a Llysgenhadaeth Prydain, rydym wedi cadw cysylltiad rheolaidd gyda thîm heddlu'r Adran Ymchwiliadau Arbennig sy'n gweithio ar yr achos yng Ngwlad Thai.

"Mae eu gwaith ers chwe mis yn galonogol.

'DNA'

"Mae proffil DNA yn rhan bwysig o'r trywydd y maen nhw'n ei ddilyn ..."

Er bod nifer o bobl wedi cael eu harestio, does neb wedi ei gyhuddo.

Cafwyd hyd i'w chorff mewn ystafell yng Ngwesty Aree yn Chiang Mai yng ngogledd y wlad, 435 milltir o'r brifddinas.

Dri mis yn gynharach roedd wedi cychwyn ar daith dwy flynedd o amgylch y byd.

Mae ei mam wedi addo na fydd yn rhoi'r gorau i'w hymgyrch nes bod y llofrudd yn cael ei ddal.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.