Myfyrwyr yn cynorthwyo i greu Coron 2013

Byrllysg seremonïol Image copyright Andrew Coomber
Image caption Bu myfyrwyr eisoes yn gweithio gyda'r arlunydd i greu byrllysg seremonïol

Mae tîm o fyfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr yn cynorthwyo i gynllunio a chreu y Goron at Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2013.

Maent yn gweithio o dan gyfarwyddiad yr arlunydd Andrew Coomber.

Cafodd Mr Coomber ei gomisiynu i gwblhau'r prosiect gan ganghennau Siroedd Dinbych a Fflint o Undeb Amaethwyr Cymru, sydd hefyd yn noddi'r Goron.

Mae'r dasg newydd yn dilyn llwyddiant prosiect cynllunio ac adeiladu a welodd myfyrwyr yn creu byrllysg seremonïol pan ffurfiwyd Prifysgol Glyndŵr yn 2009.

Bydd y myfyrwyr yn gweithio ar leoliad fel rhan o flwyddyn olaf eu hastudiaethau mewn Celf Cymhwysol.

Mae tair myfyrwraig - Morven Browne, Sarah Jones a Jess Bryant - yn gweithio ar y Goron yn bresennol gyda Mr Coomber ar leoliad dros yr haf.

Image caption Gwyneth Lewis enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012

Dywedodd Mr Coomber: "Roedd llwyddiant prosiect 2008 i'r myfyrwyr, y Brifysgol a'r noddwyr wedi annog y syniad y dylai Coron Dinbych 2013 gael ei chreu o fewn prosiect addysgiadol tebyg.

"Mae yn brosiect cyffrous ac arwyddocaol i fod yn gweithio arno ac rwyf yn edrych ymlaen at gael dechrau."

Dywedodd Mr Coomber byddai'r goron yn cael ei ysbrydoli gan liwiau a delweddau amaethyddol Dyffryn Clwyd a Moel Famau.

Bydd hefyd yn adlewyrchu naws telynegol mewn cytgord â thechnoleg a defnyddiau modern.

Meddai Stuart Cunningham, arweinydd academaidd diwydiant creadigol, cyfryngau a pherfformiad:

"Rydym yn falch iawn fod Andrew wedi dewis myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr i weithio gydag ef ar brosiect mor arwyddocaol.

"Mae'r Brifysgol o hyd yn awyddus i ddarparu cyfleoedd i weithio ar brosiectau byw ac mae'r prosiect hwn yn esiampl arall o hynny."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.