Cyfraniad Cymraes i lwyddiant Bolt

Jamaica"s Usain Bolt (R) shakes hands with team mate and second-placed Yohan Blake after winning the men's 100m final during the London 2012 Olympic Games Image copyright REUTERS/Lucy Nicholson
Image caption Usain Bolt (ar y dde) yn dathlu ei fedal aur gyda'i gydwladwr Yohan Blake

Nid yw gweld crys melyn enwog Usain Bolt yn gwibio ar y trac yn y Stadiwm Olympaidd yn olygfa anghyffredin.

Mae'r gwibiwr o Jamaica wedi ennill y fedal aur yn y ras 200m nos Iau i ychwanegu at yr un a gafodd yn y 100m nos Sul.

Ond mae'r ferch sydd weid cynllunio'r crys yn Gymraes o Aberystwyth.

Cafodd Ffion Appleton ei dewis i gynllunio'r crys wedi iddi ymgeisio am swydd a welodd mewn cylchgrawn.

Ar ôl cael ei dewis gan gwmni Puma i gynllunio'r wisg, dywedodd ei bod wedi cael cyfarwyddiadau clir am yr hyn oedd angen a dywedodd bod y crys yn adlewyrchu diwylliant Jamaica.

'Diwylliant'

"Roedden nhw am weld rhyw chwareus ac annisgwyl oedd yn adlewyrchu'r diwylliant," meddai.

"I mi roedd hynny'n golygu blociau o liwiau amlwg fel bod y crys yn amlwg ar y trac.

"Mae'r cyfan yn seiliedig ar ddiwylliant a cherddoriaeth Jamaica, ac ar y celf y mae rhywun yn ei gysylltu gyda'r wlad.

"Gofynnwyd i ferch Bob Marley wneud y gwaith graffeg sy'n dangos cerddoriaeth Jamaica."

Ychwanegodd Ffion Appleton ei bod yn cefnogi Usain Bolt wrth iddo gystadlu yn Llundain.

"Rwy'n credu bod llawer o bobl yn y DU yn ei gefnogi hefyd - mae e gymaint o gymeriad."

Usain Bolt yw'r dyn cyntaf erioed i ennill y 100m a'r 200m ddwywaith yn olynnol ar ôl iddo gyflawni'r un gamp yn Beijing yn 2008.

His Jamaican team mate Yohan Blake came second in both races.

Bolt is the first man to defend the Olympic 100m and 200m sprint titles, after he won both events in Beijing in 2008.