Craig Bellamy yn ymuno â Chaerdydd

Craig Bellamy Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Craig Bellamy wedi cynrychioli naw clwb yn ystod ei yrfa

Mae cyn gapten Cymru ac aelod Team GB yn y Gemau Olympaidd, Craig Bellamy, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda chlwb ei gartref, Caerdydd.

Treuliodd gyfnod ar fenthyg gyda Chaerdydd yn 2010 pan oedd ar lyfrau Manchester City.

Mae ei deulu'n dal i fyw yng Nghaerdydd ac mae Bellamy wedi dweud ers tro ei fod yn dymuno symud yn ôl yno.

Yn ystod ei yrfa mae wedi chwarae i naw o glybiau gan gynnwys Lerpwl (ddwywaith), West Ham United, Manchester City, Celtic a Newcastle ynghyd â'i gyfnod blaenorol gyda Chaerdydd.

Wrth gadarnhau'r trosglwyddo fore Gwener, dywedodd prif weithredwr Caerdydd, Alan Whiteley, ei fod yn ddiolchgar i berchnogion clwb Caerdydd am eu hymroddiad a chefnogaeth ac i'r rheolwr Malky Mackay am ei ddyfalbarhad wrth fynd ar ôl Bellamy.

Diolchodd hefyd i Brendan Rodgers, rheolwr Lerpwl, am ei gymorth yn ystod y trafodaethau ac i Bellamy ei hun am ddangos ffydd yn y clwb a'u gobeithion o esgyn o'r Bencampwriaeth i'r Uwchgynghrair y tymor nesaf.

Straeon perthnasol