Mynd â cherddwr i'r ysbyty wedi iddo gwympo ar Grib Goch

Hofrennydd
Image caption Hofrennydd o'r Fali aeth ag e i Ysbyty Gwynedd

Aed â cherddwr 30 oed i'r ysbyty oherwydd ofnau ei fod wed torri ei figwrn wedi iddo gwympo ar Grib Goch yn Eryri.

Roedd yn aelod o griw o gerddwyr roddodd wybod am y ddamwain am 7:25am ddydd Gwener.

Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis eu galw a hofrennydd o Ganolfan yr Awyrlu yn y Fali aeth ag e i Ysbyty Gwynedd, Bangor.