Donaldson yn mwynhau America

Jamie Donaldson Image copyright Getty Images
Image caption Enillodd Jamie Donaldson Bencampwriaeth Agored Iwerddon yn gynharach eleni

Fe gafodd Jamie Donaldson rownd dda mewn amgylchiadau anodd ym Mhencampwriaeth PGA America yn Kiawah Island ddydd Gwener.

Roedd y Cymro yn gydradd bymthegfed ar ddiwedd ei rownd gyntaf o 69 ddydd Iau, ac fe ychwanegodd 73 at ei gyfanswm ar yr ail ddiwrnod i gadw'i safle.

Bu'n rhaid atal y chwarae am gyfnod ddydd Gwener wrth i stormydd mellt a tharanau a gwyntoedd cryfion daro'r cwrs.

Yn wir wrth i Rory McIlroy ddechrau ei ail rownd fe chwythwyd ei gap enwog i ffwrdd wrth iddo baratoi am ei ergyd gyntaf.

Mae'r ail rownd yn parhau tan oriau man y bore yn amser Cymru.

Carl Pettersson o Sweden oedd ar y blaen ar ddiwedd y rownd gyntaf, a bellach mae'r Americanwr Gary Woodland wedi ymuno ag ef ar y brig.

Ond mae Donaldson, a enillodd Bencampwriaeth Agored Iwerddon yn gynharach eleni, yn sicr o'i le yn ail hanner y gystadleuaeth dros y penwythnos.

Mae e bellach bedair ergyd y tu ôl i'r ceffylau blaen.

Pencampwriaeth PGA America - Kiawah Island :-

=1. Carl Pettersson (Sweden): -6

=1. Gary Woodland (UDA): -6

=3. Pat Perez (UDA): -5

=3. Rory McIlroy (Gogledd Iwerddon): -5

=15. Jamie Donaldson (Cymru): -2

Straeon perthnasol