Damwain farwol: Apêl am dystion

Bu farw dyn 65 mlwydd oed mewn damwain car ger Llanrwst brynhawn ddoe.

Dywed yr heddlu fod y dyn yn byw yn sir Conwy ond nid ydynt wedi cyhoeddi ei enw.

Mae swyddogion yr heddlu yn cynorthwyo teulu'r gyrrwr ac mae Swyddfa'r Crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth.

Roedd ffordd yr A548 ar gau am rai oriau wedi'r digwyddiad.

Mae'r Heddlu wedi apelio am dystion i'r ddamwain, a ddigwyddodd tua 5.30pm.