Llywydd: Angen brwdfrydedd

Euryn Ogwen Williams
Image caption Euryn Ogwen Williams

Dywedodd Euryn Ogwen Williams, Llywydd yr Ŵyl yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, bod 'na berygl bod y Cymry yn dechrau credu "yn ein hawl dwyfol i anfarwoldeb".

Wrth annerch Eisteddfodwyr ar ddiwrnod olaf yr ŵyl ar hen faes awyr Llandw, dywedodd bod derbyn cefnogaeth arian cyhoeddus i gynnal ein diwylliant "yn gwneud i ni feddwl ein bod yn ticio blwch cynaliadwyedd ar y ffurflenni grant, yn sicrhau'r dyfodol".

Ond dywedodd mai'r "cyfan wnawn ni yw trosglwyddo'r dyfodol i sefydliad ac, fel y gwyddom yn dda, yn y cyfnod o newid presennol mae sefydliadau'n dadfeilio un ar ôl y llall".

"Nid sefydliadau sy'n goroesi, bellach, ond y dychymyg a'r creadigrwydd sy'n eu gyrru ac egni a brwdfrydedd eu cenhadaeth."

Aeth ymlaen i ganmol yr Eisteddfod Genedlaethol a'r bwrlwm fu yn y fro dros y ddwy flynedd diwethaf o ran dychymyg a chreadigrwydd.

Y newid

"Pan osodwyd yr her i'r pwyllgorau apêl leol i godi £300,000 egni a brwdfrydedd pobl, cwmnïau a chymdeithasau oedd yn gwneud i bethau ddigwydd.

"Yn ystod y ddwy flynedd ar draws y fro cynhaliwyd cannoedd o ddigwyddiadau bach a mawr - a hynny ym mhob cornel o'r sir.

"Gan mai dathliad ydy'r Eisteddfod Genedlaethol, mi allwn ni ymhyfrydu fod ein hiaith a'n diwylliant yn goroesi mewn cyfnod o newid mor sylfaenol i gymdeithas.

"Gwyddoniaeth a thechnoleg sy'n arwain meddylfryd y newid o'n cwmpas ac mae digon o dystiolaeth ar y maes eleni o sut mae'r disgyblaethau hyn yn cael eu cymhathu i'n hiaith a'n diwylliant ni.

"Allwn ni ddim ymateb i bopeth sy'n digwydd ac nid yw ymateb, bob amser, yn angenrheidiol nac yn ddoeth.

"Anfantais bod yn Gymru fach yw nad oes digon ohonom i ymateb i bopeth.

"Y fantais yw ein gallu i ddychmygu a chreu ein hunain o'r newydd tra bod y newid yn digwydd."

O ganlyniad i weithgareddau codi arian dywed bod yr ŵyl wedi ymestyn y tu hwnt i'r gymuned Gymraeg draddodiadol a'r gobaith yw "y bydd gwaddol i'r gymdeithas wrth gychwyn arferion, yn enw'r Eisteddfod, a fyddai'n parhau o genhedlaeth i genhedlaeth i fywiocau ein bro ac i ddenu pobl i ymweld â hi o bob rhan o Gymru."