Mansfield 3-4 Casnewydd

Image copyright Other

Mansfield 3-4 Casnewydd

Pan gyhoeddwyd trefn y gemau ar gyfer diwrnod cynta'r tymor, roedd cefnogwyr Casnewydd yn credu y byddai taith i Mansfield yn ffordd anodd o ddechrau'r tymor newydd.

Ond wedi 13 munud o'r gêm, roedd tîm Justin Edinburgh wedi dathlu ddwywaith wrth iddyn fynd 2-0 ar y blaen.

Ismail Yakubu sgoriodd y gyntaf gyda pheniad y tu mewn i'r cwrt chwech wedi 9 munud.

Dri munud yn ddiweddarach, Tony James ddyblodd y fantais gydag ergyd o gornel ucha'r rhwyd o'r tu allan i'r cwrt cosbi.

Er gwaetha'r sgôr, Mansfield gafodd mwyafrif y meddiant, a llawer mwy o ergydion at y gôl.

Ond roedd golwr newydd Casnewydd, Lenny Pidgeley - gynt o Chelsea - ar ei orau sawl tro i rwystro cynigion y tîm cartref.

Yna yn fuan wedi'r egwyl fe gafodd Mansfield eu gwobrwyo am eu gwaith da.

Doedd dim y gallai Pidgeley wneud wrth i gyn chwaraewr Wrecsam - Jake Speight - sgorio i'w gwneud hi'n 1-2.

Roedd hynny wedi 48 munud, a dau funud yn ddiweddarach roedd hi'n gyfartal.

Lee Beevers groesodd y bêl i Matt Green, ac fe aeth ei ergyd isel i ganol y gôl o ugain llath.

Ond cyn i gefnogwyr Casnewydd gael cyfle i ddigalonni bron, roedden nhw yn ôl ar y blaen - Aaron O'Connor yn penio croesiad Jake Thomson i mewn i'w gwneud hi'n 2-3.

Fe sgoriodd un arall o gyn-chwaraewyr Wrecsam yn y gêm hefyd - yn ffodus i Gasnewydd, Jefferson Louis oedd hwnnw, ac mae e bellach yn chwarae i Gasnewydd. Roedd hynny wedi 65 munud i agor bwlch o ddwy gôl unwaith eto.

Roedd hi'n chwip o gêm ac fe ddaeth Mansfield yn ôl iddi drachefn. Speight sgoriodd ei ail yn y gêm gyda dau funud yn weddill i'w gwneud hi'n 3-4 a rhoi ychydig o funudau nerfus i Justin Edinburgh.

Bu'n rhaid i Yakubu glirio'r bêl o'i linell gôl ei hun ddwywaith o fewn eiliadau wrth i Mansfield bwyso am gôl i'w gwneud hi'n gyfartal.

Ond doedd dim mwy o goliau, gan roi buddugoliaeth wych i ddechrau tymor Casnewydd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.