Damwain ffordd ddifrfiol

Bu farw gyrrwr beic modur ar ôl damwain ffordd yng ngogledd Sir Gaerfyrddin dydd Sadwrn.

Roedd y beic modur mewn gwrthdrawiad gyda fan ar yr A482 rhwng Llambed a Phumsaint.

Fe wnaeth ddiffoddwyr tân ddefnyddio offer arbennig i ryddhau dau o bobl o'r fan.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion a dyldi cysylltu a nhw ar 101 neu 01267 222020.

Digwyddodd y ddamwain tua 9am.