Llawdriniaeth i Ryan Jones

Ryan Jones Image copyright Other
Image caption Bydd Jones yn cael llawdriniaeth ar ei ben-glin

Bydd blaenwr y Gweilch Ryan Jones yn colli dechrau'r tymor ar ôl iddo gael llawdriniaeth ar ei ben-glin.

Mae Jones wedi dioddef gyda'i ben-glin ers amser a chafwyd anaf arall wrth hyfforddi.

Dywedodd ffisiotherapydd y Gweilch Chris Towers mai'r peth gorau i wneud gyda'r tymor ar fin dechrau oedd cael llawdriniaeth.

"Rydym yn disgwyl iddo fod yn ôl ar y maes chwarae mewn tua chwe wythnos.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.