Canlyniad gorau Donaldson erioed

Jamie Donaldson Image copyright Getty Images
Image caption Dyma'r eildro yn unig i Donaldson gystadlu yn America

Fe gafodd y golffiwr o Gymru, Jamie Donaldson, ei ganlyniad gorau erioed ym Mhencampwriaeth PGA yr Unol Daleithiau dros y penwythnos.

Mae'r bencampwriaeth yn un o bedair cystadleuaeth fwya'r byd - un o'r 'majors' - ac fe orffennodd Donaldson yn gydradd seithfed.

Yn gynharach eleni, enillodd Donaldson bencampwriaeth agored Iwerddon yn Portrush i sicrhau ei le yn y gystadleuaeth.

Rory McIlroy o Ogledd Iwerddon enillodd y bencampwriaeth yn Kiawah Island gyda sgôr o 275 - 13 ergyd yn well na'r safon ac wyth ergyd o flaen pawb arall.

Gorffennodd y golffiwr o Bontypridd un ergyd yn well na Tiger Woods, Adam Scott, Graeme McDowell a Bubba Watson.

Dyma oedd yr eildro i Donaldson gystadlu yn y bencampwriaeth wedi ei ymgais gyntaf y llynedd.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Donaldson yn codi i rif 57 ar restr detholion y byd.

Pencampwriaeth PGA yr Unol Daleithiau - Kiawah Island :-

1. Rory McIlroy (Gogledd Iwerddon): -13 (67;75;67;66)

2. David Lynn (Lloegr): -5 (73;74;68;68)

=3. Justin Rose (Lloegr): -4 (69;79;70;66)

=3. Keegan Bradley (UDA): -4 (68;77;71;68)

=3. Ian Poulter (Lloegr): -4 (70;71;74;69)

=3. Carl Pettersson (Sweden): -4 (66;74;72;72)

=7. Jamie Donaldson (Cymru): -3 (69;73;73;70)