Enw newydd i stadiwm Bangor

Stadiwm Book People Image copyright BCFC
Image caption Bydd Nantporth bellach yn cael ei adnabod fel Stadiwm The Book People

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi arwyddo cytundeb gyda noddwyr i'w stadiwm newydd yn Nantporth.

O dan amodau'r cytundeb tair blynedd, bydd stadiwm Nantporth yn cael ei adnabod fel Stadiwm The Book People.

Bydd logo'r cwmni hefyd yn ymddangos ar grysau'r tîm yn ôl amodau'r cytundeb a gadarnhawyd yn swyddogol dros y penwythnos.

Mae gan y cwmni warws a chanolfan gwasanaeth i'r cwsmer yn y ddinas ers 2002.

Dywedodd cadeirydd y cwmni, Ted Smart: "Mae hwn yn gyfle gwych i'r clwb pêl-droed, the Book People a'r gymuned leol ym Mangor.

"Mae'r Book People wedi teimlo'n rhan bwysig o'r gymuned erioed ac roeddem yn teimlo bod hwn yn gyfle gwych i roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned yr ydym mor falch o fod yn rhan ohoni."

Bydd y cytundeb gyda'r clwb yn weithredol ar gyfer dechrau'r tymor newydd yn Uwchgynghrair Cymru a fydd yn dechrau wrth i Fangor groesawu Cei Conna ar nos Wener, Awst 17.

Dywedodd cadeirydd y clwb, Dilwyn Jones: "Rydym yn croesawu'r bartneriaeth newydd yma gyda'r Book People - busnes sydd wedi chwarae rhan sylweddol yn yr economi leol dros y ddeng mlynedd ddiwethaf.

"Mewn cyfnod anodd i fyd busnes, rydym yn gwerthfawrogi'n arbennig y buddsoddiad gwerthfawr y mae'r Book People yn ei wneud i Glwb Pêl-droed Dinas Bangor, ac yn edrych ymlaen at ad-dalu'r hyder sydd wedi ei ddangos ynom."

Straeon perthnasol