Hen lun o Eileen Beasley
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Teyrnged i ymgyrchydd iaith

13 Awst 2012 Diweddarwyd 08:30 BST

Mae teyrngedau yn cael eu rhoi i Eileen Beasley a fu farw ddydd Sul yn 91 oed.

Ym 1952, hi a'i gwr oedd y rhai cyntaf i wrthod talu'r dreth am eu bod yn dymuno cael ffurflen Gymraeg.

Roedd eu protest yn sbardun i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddegawd yn ddiweddarach.

Un o sylfaenwyr y Gymdeithas oedd y cyn Aelod Seneddol a chyn Aelod Cynulliad Cynog Dafis - bu'n dweud wrth Garry Owen sut y byddai ef yn cofio Eileen Beasley.