Toshack yn gadael Macedonia

John Toshack
Image caption Treuliodd Toshack ddau gyfnod fel rheolwr Cymru

Nid yw John Toshack bellach yn rheolwr tîm pêl-droed rhyngwladol Macedonia.

Ychydig dros flwyddyn ers iddo gael ei benodi, mae'r Cymro a Chymdeithas Bêl-droed Macedonia (FFM) wedi cytuno i wahanu.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cyfarfod rhwng Toshack a llywydd yr FFM, Ilcho Gjorgjioski, yr wythnos ddiwethaf.

Deellir bod Mr Gjorgjioski yn awyddus i Toshack symud i fyw i'r wlad, a chael mwy o ddylanwad uniongyrchol ar ddatblygu pêl-droed drwy addysgu hyfforddwyr ac ati.

Roedd Toshack yn deall yn iawn yr amodau, a'r rhesymau drostynt, ond nid oedd yn fodlon gweithio dan yr amodau yna, ac fe gytunodd i ddirwyn ei gytundeb i ben.

Ni fydd Toshack felly yn arwain y wlad yn erbyn Cymru yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2014 - roedd Macedonia a Chymru yn yr un grŵp.

Yn ôl adroddiadau o Macedonia, bydd Goce Sedloski yn cymryd yr awenau fel hyfforddwr dros dro ar gyfer gêm gyfeillgar yn erbyn Lithwania ar Awst 15.

Bu Toshack wrth y llyw am wyth gêm, ac fe gafodd y tîm un fuddugoliaeth a phedair gêm gyfartal gan gollai tair ohonynt.

Straeon perthnasol