Cyhoeddi enw beiciwr modur marw

Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw dyn 48 oed, fu farw mewn damwain beic modur ger Abertawe nos Iau.

Cafodd Andrew Slaughter, o Langennech ger Llanelli, ei ladd wedi i'w feic modur Triumph daro yn erbyn car Skoda Octavia ar yr A483 ger Parc Diwydiannol Cwmdu tua 9:20pm.

Mae ei deulu wedi rhoi teyrnged iddo:

"Roedd Andrew yn ddyn teulu cariadus iawn, gŵr annwyl i Karen a llystad anhygoel i Crystal, Amber a Luke. Roedd yn fab arbennig i Janet a brawd i Sharon a Darren.

"Doedd dim byd yn ormod o drafferth i Andrew pan roedd hi'n dod i ofalu am ffrindiau a phobl o fewn y gymuned fyddar.

'Tynnu coes'

Roedd Mr Slaughter yn gweithio fel peiriannydd yn Ysbyty Preifat Werndale, Caerfyrddin, ac roedd hefyd yn Ysgrifennydd gyda Chlwb Cymdeithasol a Chwaraeon Byddar Abertawe.

Ychwanegodd ei deulu: "Roedd yn hoff o chwarae golff, o wylio chwaraeon a mynd ar deithiau hir ar ei feic modur. Roedd yn gefnogwr brwd o glwb pêl-droed Chelsea ac roedd wrth ei fodd yn tynnu coes ei deulu a'i ffrindiau mai nhw oedd y tîm gorau."

Dywedodd ei wraig, Karen: "Byddaf yn ei golli cymaint, bydd ei chwerthiniad a'i wen yn aros gyda mi am byth, alla' i ddim peidio â meddwl am y dyfodol na fyddwn ni'n ei gael, fe fydd fy nyn arbennig i am byth."

Cafodd gyrrwr 24 oed ei arestio yn dilyn y digwyddiad nos Iau.

Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad, i gysylltu â'r heddlu ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.