Morse yn diolch am gefnogaeth

Brett Morse Image copyright Getty Images
Image caption Methodd Brett Morse â chyrraedd rownd derfynol y ddisgen yr wythnos diwethaf

Mae'r taflwr disgen Brett Morse wedi anfon neges o ddiolch ar wefan Twitter wedi i daflwr pwysau o Felarws golli ei medal aur am gymryd cyffuriau.

Yr wythnos diwethaf bu'n rhaid i Morse dynnu sylwadau oedd yn cyhuddo'r taflwr pwysau o Felarws, Nadzeya Ostapchuk, o ddefnyddio cyffuriau oddi ar wefan Twitter.

Ond dydd Llun cyhoeddodd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol fod Ostapchuck, a enillodd y gystadleuaeth taflu pwysau i fenywod yr wythnos diwethaf, wedi methu prawf cyffuriau.

Cafodd ei ddiarddel o'r gystadleuaeth gan golli ei medal aur ar ôl cael dau brawf positif am y cyffur metenolone.

Methodd Morse, 23oed o Benarth, â chyrraedd rownd derfynol y ddisgen ar Awst 6 a chyhoeddodd ar ei gyfrif Twitter yn ddiweddarach: "Rwyf wedi cael diwrnod gwael ond fe allai fod yn waeth - gallwn i edrych fel Ostapchuk."

Wedyn cyhuddodd yr athletwraig o ddefnyddio cyffuriau.

Dywedodd asiant Morse, Jamie Baulch, wrtho am dynnu ei sylwadau o'r wefan.

Ond yn awr mae Morse wedi cyhoeddi dwy neges arall ar ei gyfrif Twitter.

Dywed un neges: "I bawb wnaeth anfon negeseuon sarhaus imi...ewch i grafu...methodd Ostapchuk prawf cyffuriau ac mae hi wedi colli ei medal.

"Mae'n rhaid imi ddweud wrth y rheiny wnaeth fy nghefnogi cant y cant. Diolch. Rwy'n hapus bod y gamp yn cael ei glanhau a bod pawb yn cael chwarae teg."

Straeon perthnasol