Heddlu'n ymchwilio wedi i seiclwr farw o'i anafiadau

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio wedi marwolaeth seiclwr gafodd ei ddarganfod yn gorwedd ag anafiadau difrifol wrth ochr ffordd yn Wrecsam.

Cafwyd hyd i'r dyn 52 oed o dan bont rheilffordd yng Ngresffordd nos Sadwrn.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam lle fu farw nos Sul.

Roedd y seiclwr wedi bod ar gefn beic glas Peugeot ac yn teithio ar hyd Ffordd Gresffordd i gyfeiriad Llai cyn iddo gael ei ddarganfod.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.