'Ail danio ysbryd' gŵyl Jazz Aberhonddu

Dionne Warwick Image copyright Tim Dickeson
Image caption Ymddangosodd y gantores o America Dionne Warwick yn yr ŵyl nos Wener

Mae trefnwyr newydd Gŵyl Jazz Aberhonddu wedi datgan eu bod yn hapus ag ymateb y cyhoedd i'r digwyddiad eleni.

Dywedodd cwmni Orchard, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, fod yr ŵyl wedi denu tua 30,000 o bobl i'r dref i weld artistiaid fel Dionne Warwick a Stan Tracey yn ystod y penwythnos

Yn ôl cyfarwyddwr Orchard, Pablo Janczur, mae trigolion a masnachwyr Aberhonddu wedi canmol y cwmni am "ail danio ysbryd" yr ŵyl pan oedd yn ei hanterth.

Dywed y cwmni y gallai'r ŵyl gynnig dwywaith yn fwy o gyngherddau'r flwyddyn nesaf.

'Miloedd o ymwelwyr'

Cafodd Orchard eu dewis i hyrwyddo'r ŵyl gan Gyngor y Celfyddydau, Vyngor Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ym mis Mai eleni.

Dechreuwyd ar y gwaith o chwilio am hyrwyddwr newydd fis Hydref y llynedd ar ôl i drefnwyr Gŵyl y Gelli gyhoeddi eu bod yn rhoi'r gorau iddi ar ôl trefnu'r digwyddiad am ddwy flynedd.

Roedd Ginger Baker a Roy Ayres ymysg y cerddorion wnaeth perfformio mewn tua 25 cyngerdd eleni.

"Rydym yn falch iawn o'n gŵyl gyntaf," meddai Mr Janczur.

"Mae'r gerddoriaeth wedi bod yn wych ac mae'r ymateb gan bobl a masnachwyr lleol a'r miloedd o ymwelwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn."

Fe wnaeth Mr Janczur ganmol y tafarnau, clybiau nos a lleoliadau eraill wnaeth gynnal y cyngherddau yn ystod yr ŵyl.

Cynhaliwyd Gŵyl Jazz Aberhonddu am y tro cyntaf ym 1984 ac mae wedi denu enwogion o fyd jazz ar draws y byd.

Dros y blynyddoedd mae cantorion ac offerynwyr yn cynnwys Amy Winehouse, Van Morrison, George Melly, Humphrey Lyttleton, Courtney Pine a Sonny Rollins wedi ymddangos yno.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.