Cyn-filwr 88 oed o Gaergybi'n cofio'r 'Teiffŵn Dur'

Caradog Jones Image copyright Y Gronfa Loteri
Image caption Bydd Caradog yn dychwelyd i Awstralia am dair wythnos ym mis Tachwedd

Wrth nodi diwedd yr Ail Ryfel Byd ar Ddiwrnod Buddugoliaeth dros Japan ddydd Mercher mae cyn-filwr o Ynys Môn yn cofio ei rôl ym Mrwydr y Môr Tawel.

Diolch i grant gan raglen Arwyr yn Ôl 2 y Gronfa Loteri Fawr, bydd Caradog Jones, 88 oed o Gaergybi, yn dychwelyd i Awstralia eleni i gofio ble y daeth ei ryfel i ben 67 mlynedd yn ôl ac i dalu teyrnged i'r sawl a gollodd eu bywydau rhwng 1939 a 1945.

Cafodd Mr Jones ei gyfweld gan Gronfa'r Loteri Fawr i nodi'r achlysur.

Mae Mr Jones yn un o nifer fawr o gyn-filwyr o Gymru sydd wedi mynd, neu sydd ar fin mynd, ar deithiau i'r lleoedd y buon nhw'n gwasanaethu yn ystod y rhyfel.

Hyd yn hyn mae rhaglen Arwyr yn Ôl y Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu dros £1 miliwn i dros 830 o gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd, eu gweddwon, gwŷr, gwragedd a gofalwyr o Gymru ar gyfer teithiau yn y DU, Ffrainc, Yr Almaen, y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell a'r tu hwnt.

'Y Llong Lwcus'

Ym mis Tachwedd 1942 ac yntau ond yn 18 oed, cafodd Mr Jones ei alw i'r Llynges Frenhinol fel Llongwr Abl.

Ymunodd â'r gangen Torpidos ac roedd yn gyfrifol am danio torpidos o Longau Dinistrio ar longau'r gelyn a gollwng bomiau tanddwr i suddo llongau tanfor y gelyn.

Daeth ei ryfel i ben wrth i Japan ildio ar ôl i America ollwng y Bomiau Atomig ar Hiroshima a Nagasaki.

Image copyright Y Gronfa Loteri
Image caption Rhoddwyd yr enw 'Y Llong Lwcus' i'r Queenborough ar ôl y rhyfel

"Es i'r rhyfel yn gwbl ddiniwed, a ddim yn gwybod beth i ddisgwyl," esboniodd.

"Y peth doniol yw, fe ymunais â'r Llynges Frenhinol heb fedru nofio er gwaetha'r ffaith yr oedd dŵr o'm cwmpas fi ym mhobman yn tyfu i fyny ar Ynys Môn.

"Hyd at heddiw, dwi dal ddim yn gallu nofio."

Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant yn llwyddiannus yn Plymouth, daeth Mr Jones wyneb yn wyneb â'i long newydd, HMS Queenborough, am y tro cyntaf yn Gourock, Yr Alban.

Rhoddwyd yr enw 'Y Llong Lwcus' i'r Queenborough ar ôl y rhyfel, gan gyfeirio at yr holl frwydrau bron yn farwol y daeth hi a'i chriw allan ohonyn nhw heb niwed er gwaetha'r ffaith eu bod wedi brwydro mewn rhai o'r theatrau rhyfel mwyaf peryglus o gwmpas y byd.

'Y Deiffŵn Dur'

Ar ôl gadael Môr y Canoldir ac ymosod ar safleoedd y Japaneaid ar hyd Cefnfor yr India ac Arfordir Gorllewinol Malaya ar ddiwedd 1944, anfonwyd y Queenborough i'r môr Tawel i gefnogi'r rhyfel yn erbyn Japan.

Image copyright Y Gronfa Loteri
Image caption Bu Caradog Jones yn rhan o Frwydr Okinawa wnaeth bara am 31 diwrnod

Dyma ble cymerodd Mr Jones a'r Queenborough ran ym Mrwydr Okinawa, ymgyrch ymosod morol fwyaf Rhyfel y Môr Tawel ar ynys Okinawa oddi ar arfordir deheuol Japan.

Parhaodd y frwydr o ran gyntaf mis Ebrill tan ganol mis Mehefin 1945.

Mae'r frwydr wedi cael ei galw'n 'Deiffŵn Dur' wrth gyfeirio at chwerwder yr ymladd, dwyster yr ymosodiadau Kamikaze gan amddiffynwyr Japan a nifer enfawr llongau a cherbydau arfog y Cynghreiriaid a ymosododd ar yr ynys.

"Roedd y Japaneaid yn trio eu gorau glas i'n hatal ni ac yn taflu popeth tuag atom," meddai Mr Jones wrth gofio.

"Roedd gennym dasglu enfawr yno.

"At ei gilydd roedd 1,400 o longau ac 882 o longau ymosod.

"Roedd gan yr Americanwyr tua 182,000 o filwyr ar Okinawa hefyd.

"At ei gilydd roeddem ni yno am dri deg un diwrnod ac roedd yn ddi-baid."

Llong awyrennau

Cafodd bomiau atomig eu gollwng ar Hiroshima a Nagasaki, gan arwain at ildiad Japan a diwedd yr ymladd ar Awst 15 1945.

"Gwnaethom ddioddef colledion trwm yn Okinawa a dyna pam y penderfynwyd gollwng y 'Bom Atomig' ar Japan gan nad oedden nhw eisiau gweld hynny'n digwydd eto," meddai.

"Yr amcangyfrif oedd y byddem yn colli tua miliwn o filwyr os gwnaethom ymosod ar Japan a byddai'n well gan y Japaneaid farw nag ildio.

"Yn bersonol dw i'n credu mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud oherwydd yr oedd, yn ôl pob tebyg, wedi achub fy mywyd i a bywydau pobl eraill."

Cafodd y Queenborough yr anrhydedd o hebrwng llong awyrennau yn llawn carcharorion rhyfel Awstralia wedi'u rhyddhau yn ôl i harbwr Sydney ar ddiwedd y Rhyfel.

"Cawsom groeso mawr gan eu bod yn ein disgwyl ni," eglurodd.

Canberra

Rhoddwyd benthyg y Queenborough i Lynges Frenhinol Awstralia ar ôl y rhyfel, a dychwelodd Caradog i'r DU ar long arall, HMS Norman, cyn cyrraedd adref ar Ynys Môn wythnos cyn Dydd Nadolig 1945.

"Nid oeddwn wedi bod adref ers dwy flynedd a hanner a chyrhaeddais adref wythnos cyn y Nadolig," meddai.

Chwe deg saith mlynedd ar ôl iddo hwylio i mewn i Harbwr Sydney gyda llwyth amhrisiadwy o garcharorion rhyfel Awstralia wedi'u rhyddhau, yn barod i gael eu haduno â'u teuluoedd a'u cariadon, bydd Mr Jones yn dychwelyd i Awstralia am dair wythnos ym mis Tachwedd i dalu teyrnged i'r cymheiriaid a fu farw ac i weld y lleoedd y bu yn y gad.

Yn ystod ei ymweliad bydd yn cymryd rhan mewn Diwrnod Coffa Awstralia yn Canberra ar Dachwedd 11 gyda'i ferch, Gwenda.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.