Gwres yn helpu i drin canser yn ôl ymchwil prifysgol

celloedd canser y prostad Image copyright SPL
Image caption Gall gres drin canser y prostad yn ôl yr ymchwil

Mae ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi dod o hyd i 'switsh' mewn celloedd a all helpu i ladd tiwmorau gyda gwres.

Y tu ôl i'r therapi newydd yma mae'r gallu anhygoel sydd gan wres i ddiffodd y mecanweithiau goroesi hanfodol sydd mewn celloedd.

Mae'r gwaith ymchwil, a wnaed gan Ysgol Gwyddorau Biolegol Bangor, wedi ei gyhoeddi yn rhifyn diweddara'r Journal of Cell Science.

Gellir trin canser y prostad a thiwmorau lleol eraill yn effeithiol trwy gyfuno gwres a chyffur gwrth-ganser sy'n niweidio'r genynnau.

Er bod thermotherapi yn cael ei ddefnyddio'n fwy helaeth erbyn hyn, nid yw'r egwyddorion sy'n sail i hyn yn eglur.

Dol Rwsiaidd

Dywed yr ymchwilwyr bod y gwres yn addasu'r systemau goroesi trwy hybu cynhyrchu protein newydd.

Yn ddiddorol iawn, nid yw'r protein yn cael ei gynhyrchu dim ond pan fydd tymheredd uchel yn actifadu genyn sy'n cuddio tu mewn i enyn arall.

"Mae'r darganfyddiad hwn yn ein hatgoffa o ddol Rwsiaidd lle mae set o ffigurau pren bach wedi eu gosod tu mewn i ddol fwy o faint," meddai Dr Thomas Caspari, arweinydd y grŵp Bioleg Genom.

"Gall bodolaeth y genynnau cudd hyn egluro pam bod gan y genom dynol lawer llai o enynnau nag a ddisgwylid yn wreiddiol.

"Gall ein gwaith hefyd helpu i wella trin canser gyda gwres er lles cleifion.

"Roedd llwyddiant yr ymchwil hwn o ganlyniad i waith tîm a wnaed yn bosibl trwy gyllid hael gan Ymchwil Canser Cymru a'r rhaglen Leonardo Da Vinci Ewropeaidd."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.