Cynllun i agor maes awyr Penarlâg i wasanaethu'r cyhoedd

Maes Awyr Penarlâg Image copyright Samslipknot
Image caption Mae'r maes awyr am ddenu cwmniau hedfan llai na 50 sedd

Mae'n bosib y bydd modd i deithwyr hedfan unwaith eto o faes awyr Penarlâg yn Sir y Fflint o'r flwyddyn nesaf.

Daw hyn unwaith y bydd y gwaith £1 miliwn o godi terfynfa newydd wedi cael ei gwblhau.

Mae'r maes awyr eisoes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer teithiau preifat a rhai busnes.

Ond mae'r perchnogion yn gobeithio y bydd cwmnïau'n barod i gynnig teithiau i rannau eraill o Brydain ac Ewrop.

Mae'r maes awyr drws nesaf i ffatri Airbus ym Mrychdyn.

Gobaith y cwmni sy'n gyfrifol am y safle 50 acer yw denu diddordeb cwmnïau sy'n defnyddio awyrennau hyd at 50 sedd.

Sŵn

Lleoliadau o dan ystyried i hedfan iddyn nhw yw Caerdydd, dinasoedd eraill yn y DU ac mor bell â'r Eidal a Sbaen.

"Dydan ni ddim yn trafod gyda neb ar hyn o bryd," meddai Caroline Craft, rheolwr gyfarwyddwr Grwp Aviation Park, perchnogion Maes Awyr Penarlâg Caer.

"Ond rydym yn gobeithio denu diddordeb gan gwmniau hedfan bach sydd am deithio i lefydd fel Yr Alban, Ynys Manaw.

"Fydd hyn ddim ar raddfa enfawr, fe fydd 'na gyfyngiadau ar nifer y gwasanaethau, rhyw un neu ddwy hedfanid y dydd."

Ond mae rhai gwrthwynebwyr wedi dweud wrth bapur newydd y Leader eu bod yn pryderu am y sŵn.

Mae'r cwmni wedi dweud eisoes eu bod yn "sensitif i lefel y sŵn" ac nad oedden nhw'n edrych am "ddatblygiad mawr".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.