Llety pum seren newydd ar Glawdd Offa

Chirk Castle Image copyright Other
Image caption Mae'r bwthyn wedi ei leoli o fewn parc Castell y Waun ger Wrecsam

Mae bwthyn hanesyddol yn agor ei ddrysau i'r cyhoedd ddydd Mercher, fel rhan o ddathliadau i nodi 40 mlynedd ers agor llwybr Clawdd Offa.

Y Tŷ Ger y Clawdd, fel mae'n cael ei adnabod, yw un o'r ychydig adeiladau sydd wedi'i godi ar olion y clawdd ei hun.

Mae'r bwthyn yng Nghroesoswallt wedi cael ei atgyweirio'n llwyr dros y flwyddyn ddiwetha' i nodi'r deugainmlwyddiant.

Dydd Mercher bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn agor y bwthyn yn swyddogol fel llety pum seren yng nghanol parc Castell y Waun ger Wrecsam.

Dywed rheolwr y castell, Emma Thompson: "Mae Clawdd Offa yn nodwedd mor amlwg ar dir y castell, ac mae mor anghyffredin dod o hyd i dŷ sydd ar y clawdd ei hun yng Nghymru.

"Felly roeddem yn teimlo bod yn rhaid gwneud rhywbeth arbennig gyda'r adeilad i ddathlu 40 mlynedd."

'Lle Perffaith'

Cafodd y Tŷ Ger y Clawdd ei adeiladu'n wreiddiol fel gorsaf bwmpio nwy i'r castell, ac wedyn fel llety i westeion a staff.

"Roeddem yn teimlo fod y tŷ yn y lle perffaith i weld Clawdd Offa," meddai Ms Thompson.

"Gyda chymaint o'r clawdd a llwybrau eraill i fynd ar eu hyd, rydym wedi gwneud yn siŵr bod 'na le i gŵn ar y safle fel y gall gwesteion ddod â'u hanifeiliaid gyda nhw i fynd am dro."

Mae'r bwthyn wedi'i leoli ar un o'r mannau uchaf ar y llwybr cenedlaethol 177 milltir o hyd, sy'n cysylltu Cas-gwent a Phrestatyn.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.