Prisiau trên i godi yn yr Hydref?

Trên Image copyright PA
Image caption Y llynedd seiliodd Llywodraeth Cymru'r codiad mewn prisiau tocynnau 1% yn fwy na'r Mynegai Prisiau Manwerthu

Bydd yn rhaid i deithwyr trên yng Nghymru aros tan yr Hydref i wybod faint fydd prisiau teithio yn codi'r flwyddyn nesaf.

Bydd rhai tocynnau trên yn Lloegr yn codi 6.2% ym mis Ionawr 2013.

Yn yr Alban bydd prisiau'n codi 1% yn uwch na'r Mynegai Prisiau Manwerthu - oedd yn 3.2% ym mis Gorffennaf eleni.

Y llynedd seiliodd Llywodraeth Cymru'r codiad mewn prisiau tocynnau 1% yn fwy na'r Mynegai Prisiau Manwerthu.

Cymhorthdal

Bydd y Gweinidog Trafnidiaeth, Carl Sargeant, yn gwneud penderfyniad ynghylch prisiau teithio ar reilffyrdd Cymru yn yr Hydref.

Mae masnachfraint 15 mlynedd Cymru a'r Gororau wedi cael ei gweithredu gan gwmni Trenau Arriva Cymru er 2003.

Bydd yr arian ychwanegol a ddaw yn sgil y codiad mewn prisiau yn helpu ariannu buddsoddiad yn y rhwydwaith rheilffordd.

Roedd y penderfyniad i ddefnyddio fformiwlâu gwahanol i gyfrifo codiadau prisiau trên yng ngwledydd y Deyrnas Unedig yn un wleidyddol.

Yn yr Alban mae'r llywodraeth yno yn cynnig cymhorthdal o 75% i ariannu'r rheilffyrdd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.