Teyrnged i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad

Mark David Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Roedd Mark David yn byw yn Abercynffig

Cyhoeddodd Heddlu De Cymru enw dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Llangeinor ger Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun.

Roedd Mark David, 41 oed o Abercynffig, yn deithiwr mewn car Renault Clio lliw arian.

Credir fod y cerbyd yn teithio o ardal Blaengarw cyn iddo adael ffordd yr A4064 a tharo yn erbyn polyn lamp tua 11.55am.

Dywedodd teulu Mr David ei fod yn "dad, mab a brawd cariadus oedd yn gymdeithasol ac yn llawn bywyd".

"Bydd ei deulu a'i ffrindiau yn ei golli'n ofnadwy."

Cafodd dyn 40 oed o ardal Sarn ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r heddlu barhau i ymchwilio i achos y ddamwain.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i gysylltu gyda nhw neu unrhyw un welodd gar plât cofrestru 55 yn teithio cyn y ddamwain i gysylltu gyda nhw ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.