Northampton 2-1 Caerdydd

Alex Nicholls ar ôl sgorio'r gôl wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth i Northampton Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Alex Nicholls ar ôl sgorio'r gôl wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth i Northampton

Northampton 2-1 Caerdydd

Ar ôl cyrraedd y rownd derfynol y tymor diwethaf, Caerdydd yn cychwyn eu hymgyrch yng Nghwpan Capital One (yr hen Gwpan Carling) oddi cartref yn erbyn Northampton.

Colli wnaeth Caerdydd yn Stadiwm Sixfields o 2 gôl i 1 yn erbyn y tîm sydd yn yr Ail Adran.

Wedi cychwyn yn addawol o fewn y pum munud cyntaf cafodd tîm Malky Mackay gic o'r smotyn i'w rhoi ar y blaen wrth i Heider Helguson rwydo'n gywir.

Roedd o wedi cael ei lorio yn y cwrt gan Kelvin Langmead.

Ac fe wnaeth Helguson gam-arwain gôl-geidwad ifanc y tîm cartref, Dean Snedker, sy'n 17 oed.

Ond cyn yr hanner roedd y tîm cartref wedi canfod y rhwyd wrth i David Artell sgorio.

Roedd Northampton yn haeddu dod yn gyfartal wedi sawl ymgais cyn hynny.

Cyn yr egwyl methodd Ben Harding gydag ergyd wych i roi y tîm cartref ymhellach ar y blaen.

Ond fe wnaeth Northampton lwyddo dri munud wedi'r egwyl wrth i Alex Nicholls benio'r gôl.

Cafodd y tîm cartref ambell gyfle arall ac ychydig iawn o ymateb gafwyd gan yr ymwelwyr yn yr ail hanner.

Methodd Nicholls gydag ergyd saith munud cyn y diwedd ac fe fethodd O'Sullivan gyfle euraid i ddod â Chaerdydd yn gyfartal yn y funud olaf.

Tîm gwanach

Doedd y ddau dîm ddim wedi cyfarfod er mis Chwefror 2003, pan enillodd Caerdydd oddi cartref o gôl i ddim cyn iddyn nhw ennill dyrchafiad ar ddiwedd y tymor ac fe wnaeth Northampton ddisgyn yr un tymor.

Fe ddywedodd Mackay cyn y gêm ei fod wedi ei orfodi i chwarae gyda thîm gwannach oherwydd bod cynifer i ffwrdd gyda'u timau rhyngwladol.

Mae Craig Bellamy, Robert Earnshaw a Darcey Blake gyda charfan Cymru; David Marshall a Don Cowie gyda'r Alban; Aron Gunnarsson gyda Gwlad yr Iâ; Etien Velikonja gyda thîm Slovenia a Filip Kiss gyda Slovakia.

Cyn y gêm roedd Mackay wedi dweud bod ei dîm wedi cael cychwyn "anarferol" i'r tymor.

Ar ôl y gêm gwpan nos Fercher mae tymor Caerdydd yn y Bencampwriaeth yn cychwyn nos Wener, gyda gêm cartref yn erbyn Huddersfield a hynny ddeuddydd ar ôl gemau cyfeillgar rhyngwladol.

"Mae 'na lai o amser i'r chwaraewyr ddod nôl ac at eu hunain ar ôl teithio i bob cwr o Ewrop," meddai.

"Mae'n gychwyn gwirioneddol anarferol i ni."

Dywedodd y gallai fod wedi rhwystro chwaraewyr rhag ymuno a'u gwledydd ond yn hytrach mae o wedi gofyn i'r rheolwyr rhyngwladol i fod yn "ymwybodol" o sefyllfa Caerdydd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.