Wrecsam yn colli wedi taith i Maccelsfield

Clwb Pêl-droed Wrecsam Image copyright Other

Maccelsfield 2-0 Wrecsam

Wedi ennill ei gêm gyntaf ar Y Cae Ras ddydd Sadwrn colli oedd hanes Wrecsam wedi iddyn nhw deithio i Maccelsfield nos Fawrth.

Waide Fairhurst gafodd gôl gyntaf y tîm cartref wedi 10 munud.

Gwastraffodd Danny Wright ddau gyfle gwych i Wrecsam cyn i Arnaud Mendy gael yr ail wedi 76 munud i'r tîm cartref.

Doedd pum munud o amser ychwanegol ar ddiwedd y gêm ddim yn ddigon i'r Dreigiau sgorio.

Dywedodd Andy Morrell, chwaraewr-reolwr Wrecsam, wrth BBC Radio Wales nad oedden nhw'n ddigon clinigol.

"Fe wnaethon ni greu pump neu chwe chyfle ond dwi'n credu y gallen ni fod yn dal i chwarae a pheidio sgorio.

"Roedden ni'n wan yn amddiffynnol yn ogystal.

"Dwi'n fwy pryderus am y ddwy gôl wnaethon ni ganiatáu iddyn nhw sgorio gan nad ydi hynny yn adlewyrchiad ohonom.

"Mae'n rhaid i ni beidio ildio goliau os ydan ni am lwyddo yn y gynghrair eleni."

O ganlyniad i golli'r gêm mae Wrecsam wedi syrthio o frig y tabl i'r 12fed safle ar ôl dwy gêm.

Bydd Wrecsam yn teithio i wynebu Ebbsfleet ddydd Sadwrn.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. CASNEWYDD 2 5 6
2. Stockport 2 2 6
3. Gateshead 2 3 4
4. Luton 2 2 4
5. Tamworth 2 1 4
12. WRECSAM 2 0 3

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.