Seremoni i groesawu Jade nôl adre

Mae Cyngor Tre'r Fflint a Chyngor Sir y Fflint wedi amlinellu cynlluniau ar gyfer seremoni i groesawu'r pencampwr Olympaidd Jade Jones yn ôl adref.
Bydd yr achlysur ar Awst 25 yn cynnwys taith bws o amgylch y dre' a derbynfa ddinesig ar gyfer y bencampwraig.
Y ferch 19 oed oedd y gyntaf erioed o Brydain i ennill Medal Aur mewn Taekwando.
Hi hefyd yw'r aelod ieuengaf o dîm Prydain i ennill Medal Aur yng Ngemau 2012.
Bydd mwy o fanylion am ddigwyddiadau'r diwrnod yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.
Fe wnaeth Jade ddychwelyd adref at ei theulu ddydd Llun.
Ail-frandio
Dywedodd y cynghorydd Aaron Shotton, arweinydd Cyngor Sir Y Fflint, y bydd llwyddiant Jade yn cael ei gydnabod yn y dref.
"Mae yna waith atgyweirio wedi ei wneud ar Ganolfan Hamdden Y Fflint," meddai.
"Bydd y safle yn cael ei ailagor yn swyddogol yn yr hydref ac yn cael ei ail-frandio fel arwydd o gydnabyddiaeth i lwyddaint Jade."
Dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor Sir, Colin Everett, ei fod o'n gobeithio y bydd llwydaint Jade yn annog pobl leol i gymryd rhan mewn chwaraeon.
"Byddwn yn cydweithio gyda chymdeithasau a chlybiau lleol er mwyn hyrwyddo'r gamp.
"Rydym yn disgwyl i nifer fawr o bobl newydd ymgymryd â'r gamp yn dilyn llwyddaint Jade."