Damawain: Arestio gyrrwr lori

Mae'r Ail Bont Hafren wedi ei hailagor ar ôl bod ar gau am gyfnod yn dilyn gwrthdrawiad fore Mercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ddamwain rhwng pedwar car a lori tua 11.20am.

Dywed Heddlu Gwent eu bod wedi arestio gyrrwr lorri 31 oed ar amheuaeth o yrru yn ddiofal.

Bu tair lôn ddwyreiniol ar gau rhwng Cyffordd 23 Magwyr a Chyffordd 22 yr M49.

Cafodd saith o bobl fan anafiadau.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.