Cymru Dan-21 0-1 Armenia Dan-21

Geraint Williams Image copyright Empics
Image caption Hon oedd gêm gyntaf Geraint Williams fel rheolwr tîm dan-21 Cymru

Fydd tîm dan-21 Cymru ddim yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Dan-21 Ewrop wedi iddyn nhw golli i Armenia yn Wrecsam nos Fercher.

Roedd Cymru angen buddugoliaeth ar y Cae Ras i gael unrhyw obaith o fynd i rowndiau terfynol pencampwriaeth dan-21 Ewrop, ond fe gawson nhw'n dechrau gwaethaf posib.

Wedi dim ond chwe munud, fe lawiodd David Stephens y bêl yn ei gwrt cosbi ei hun - cerdyn coch yn syth i Stephens a chic o'r smotyn i Armenia.

Rhwydodd Hovhabbes Hambardzumyan o'r smotyn i'r ymwelwyr i fanteisio ar gyfle euraidd.

Yn fuan wedyn bu'n rhaid i Gymru aberthu'r ymosodwr Jake Taylor er mwyn dod ag amddiffynnwr arall i'r maes fel eilydd - Troy Brown oedd yr eilydd hwnnw.

Ergydion

Ar ddechrau'r gêm roedd Cymru yn drydydd yn Grŵp 3 - chwe phwynt y tu ôl i'r Weriniaeth Siec ar y brig ond pwynt yn unig y tu ôl i Armenia yn yr ail safle.

Er tegwch i Gymru, doedd hi ddim yn amlwg eu bod nhw ddyn yn brin am weddill yr hanner cyntaf, ac fe gafodd y Cymry gymaint o ergydion at y gôl â'u gwrthwynebwyr.

Ond doedd dim mwy o sgorio yn yr hanner cyntaf, a'r ymwelwyr oedd ar y blaen ar yr egwyl.

Roedd deg dyn Cymru yn siŵr o flino, ac wrth iddyn nhw wneud hynny yn hwyrach yn y gêm fe ddaeth mwy a mwy o gyfleoedd i Armenia.

Daeth y gorau o'r rheini yn dilyn trosedd gan y golwg Chris Maxwell yn y cwrt cosbi arweiniodd at ail gic o'r smotyn i'r ymwelwyr, ond y tro fe darodd Hambardzumyan y postyn.

Roedd tîm ifanc Geraint Williams yn gwybod y byddai unrhyw beth ond triphwynt o'r gêm yma yn golygu y byddai Cymru yn methu symud ymlaen yn y gystadleuaeth, ac fe geisiodd daflu chwaraewyr ymlaen wrth i'r cloc dician tuag at 90 munud.

Yn ystod y cyfnod yna o ymdrechu, daeth ambell gyfle i Gymru, gyda Lee Lucas a Billy Bodin yn enwedig yn dal i edrych yn fywiog.

Ond doedd dim yn tycio, ac mae ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth Dan-21 Ewrop ar ben am eleni.

Bydd Cymru yn chwarae eu gêm olaf yn y grŵp oddi cartref yn erbyn Y Weriniaeth Siec ar Fedi 10.

Straeon perthnasol