Damawain: Dyn gerbron llys ynadon

Mae gyrrwr lori 31 oed o Slofacia wedi cael ei gyhuddo o yrru yn ddiofal yn dilyn damwain ar ail Bont Hafren ddydd Mercher.

Bu tair lôn ddwyreiniol ar gau am gyfnod rhwng Cyffordd 23 Magwyr a Chyffordd 22 yr M49.

Cafodd saith o bobl fân anafiadau.

Bydd y gyrrwr yn ymddangos gerbron ynadon Cwmbran ddydd Iau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ddamwain rhwng pedwar car a lori tua 11.20am.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.